Felix Aubel

Rygbi

This MP3 requires flash to play, however you can download it from the following url

Download

Get Adobe Flash player

Eleri Roberts

Boddi Tryweryn

This MP3 requires flash to play, however you can download it from the following url

Download

Get Adobe Flash player

Ifor Williams

Streic Y Glowyr

This MP3 requires flash to play, however you can download it from the following url

Download

Get Adobe Flash player

Aria Thomas

Y Refferenda Datganoli

This MP3 requires flash to play, however you can download it from the following url

Download

Get Adobe Flash player

Ifanwy Rhisiart

Atgofion Cyffredinol

This MP3 requires flash to play, however you can download it from the following url

Download

Get Adobe Flash player

Y Cof a'r Cyfryngau yng Nghymru

Rydym ni i gyd yn gwybod – neu yn meddwl ein bod yn gwybod – sut bu i fywyd teuluol yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif ddod i droi fwyfwy o amgylch y set deledu oedd yn agwedd mor amlwg o ystafelloedd byw ar draws y genedl. O’r 1960au ymlaen, roedd setiau teledu yn fwy a mwy cyffredin. Roedd cynnwys y darllediadau yn ganolog i ddiwylliant poblogaidd ac roedd cynulleidfaoedd y rhaglenni mwyaf poblogaidd a darllediadau o ddigwyddiadau cenedlaethol a rhyng-genedlaethol pwysig i’w rhifo mewn degau o filiynau. Yn ystod y degawdau yma drwy ffenestr y teledu yr edrychai Prydain ar ei hunan ac ar y byd. O safbwynt ail ddegawd y 21fed ganrif, ymddengys y cyfnod rhwng canol yr 1960au a chanol yr 1990au fel oes aur teledu. Ers hynny, mae safle blaenllaw y teledu fel prif gyfrwng diddanwch a newyddion wedi’w drawsnewid yn sgil dyrchafiad technolegau cyfathrebu newydd. Ychydig iawn o raglenni teledu cyfoes sydd yn ennill cynulleidfaoedd ar raddfa debyg i rai yr 1970au a’r 1980au. Rydym nawr yn derbyn ein newyddion a’n clecs drwy gyfryngau eraill ac mae’r nifer o sianeli yn golygu na fedr unrhyw un rhaglen ddisgwyl y math o gynulleidfa oedd yn bosibl bryd hynny.

Mae nawr yn amser da felly i edrych yn ôl ar oes aur y teledu a gofyn i bobl recordio eu hatgofion o beth oedd teledu yn ei olygu iddyn’ nhw, eu teuluoedd a’u cymunedau. Dyna beth y ceisiodd ‘Cof a’r Cyfryngau yng Nghymru’ ei gyflawni. Bwriad y priosect oedd casglu ac archifo tystiolaeth lafar ynglyn ag oes y teledu yng Nghymru ac ysgogi atgofion o ddigwyddiadau teledu arwyddocaol i wleidyddiaeth a diwylliant. Drwy ganolbwyntio ar bedwar cymuned ddaearyddol a ieithyddol wahanol ein bwriad oedd ceisio arddangos sbectrwm o atgofion fyddai’n cynrychioli cof cenedl o deledu yng Nghymru. Roeddem eisiau gwybod beth oedd pobl yn ei gofio (neu wedi’w anghofio). Roeddem eisiau gwybod beth roedd pobl yn ei ystyried oedd dylanwad teledu ar eu bywydau o ddydd i ddydd. Roeddem eisiau rhoi ychydig o gnawd ar esgyrn ein syniadau o’r modd y bu i’r teledu drawsnewid ein bywydau. Canlyniad y priosect yw’r wefan yma.

Themâu

Darganfyddwch mwy a gwrandwch ar rai yn hel atfodion am y pynciau a drafodwyd yn y prosiect

Themes

Gweld Mwy

Cyfranwyr

Porwch drwy'r holl glipiau o gyfranwyr yn hel atgofion am y teledu yng Nghymru.

Contributors

Gweld Mwy